Cofnodion cryno - Bwrdd Taliadau


Lleoliad:

Rhithwir drwy MS Teams

Dyddiad: Dydd Iau, 26 Mai 2022

Amser: Times Not Specified


IRB(03-22)

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Bwrdd:

Dr Elizabeth Haywood (Cadeirydd);

David Hanson;

Michael Redhouse;

Y Fonesig Jane Roberts;

Ysgrifenyddiaeth:

Huw Gapper, Clerc;

Joanna Adams, Ail Glerc;

Ruth Hatton, Dirprwy Glerc;

Anna Daniel, Uwch-gynghorydd i’r Bwrdd;

Craig Griffiths, Cynghorydd Cyfreithiol i’r Bwrdd;

Bethan Davies, Pennaeth Cefnogaeth ac Ymgysylltu â’r Aelodau;

David Lakin, Swyddog Cymorth Pwyllgor;

Martin Jennings, Arweinydd Tîm Ymchwil, Uned Craffu Ariannol;

Kate Rabaiotti, Gwasanaethau Cyfreithiol

Cyfranogwyr:

Phil Boshier, Y Gwasanaeth Ymchwil

Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau, Comisiwn y Senedd

Michelle Hagerty, Corff Corfforaethol Seneddol yr Alban

Lorna Foreman, Corff Corfforaethol Seneddol yr Alban

Mairi Pearson, Scottish Paliamentary Corporate Body

Erin Borthwick, Corff Corfforaethol Seneddol yr Alban

Gareth Watts, Pennaeth Llywodraethu a Sicrwydd

 

<AI1>

1         Cyflwyniad y Cadeirydd  (9.15 - 9.20)

1.1Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

1.2Cafwyd ymddiheuriadau gan Hugh Widdis.

1.3Nododd y Bwrdd fod Llinos Madeley, Clerc y Bwrdd, wedi symud i swydd arall yng Nghomisiwn y Senedd. Roedd y Bwrdd yn dymuno diolch i Llinos am ei gwaith caled ac am y newidiadau cadarnhaol a wnaeth yn ystod ei chyfnod fel Clerc. Dymunodd y Bwrdd y gorau i Llinos yn ei gyrfa at y dyfodol.

1.4Soniodd y Bwrdd am gyfarfodydd Grŵp y Cynrychiolwyr, ar gyfer Aelodau a Staff Cymorth, a gynhaliwyd y diwrnod blaenorol.

1.5Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mawrth.

Camau i’w cymryd:   

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i baratoi llythyr diweddaru i’r Aelodau yn dilyn y cyfarfod a drafftio llythyr o ddiolch i Llinos Madeley.

·         Cyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mawrth.

</AI1>

<AI2>

2         Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Pensiynau  (9.20 - 9.50)

2.1Bu’r Bwrdd yn ystyried newidiadau i’r Rheolau ar Gynllun Pensiwn yr Aelodau, a chytunwyd arnynt, i adlewyrchu dyfarniadau McCloud a Sargeant ac i osgoi darpariaethau a allai fod yn wahaniaethol:

2.2Cymeradwywyd y newidiadau canlynol hefyd i adlewyrchu newidiadau i’r Rheolau y cytunwyd arnynt yn flaenorol gan y Bwrdd:

·                diwygio Rheolau 30.3 a 30.4, sy’n ymwneud â chyfraniadau gan ddeiliaid swyddi sy’n cymryd rhan ac sy’n aelodau o adran Enillion Cyfartalog Gyrfa wedi’u Hailbrisio y Cynllun (penderfyniad y Bwrdd Taliadau ar 15 Awst 2016);

·                nifer o newidiadau i gydymffurfio â gofynion gwahaniaethu ar sail oedran mewn perthynas ag Aelodau 75 oed neu hŷn (penderfyniad y Bwrdd Taliadau ar 19 Medi 2019);

·                diwygio’r Rheolau i ganiatáu cyfnewid pensiwn afiechyd yn llawn am gyfandaliad arian parod mewn achosion o ddisgwyliad oes byr o lai na 12 mis (penderfyniad y Bwrdd Taliadau ar 21 Tachwedd 2019);

·                iaith wedi’i diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau enw a gyflwynwyd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, er enghraifft Senedd Cymru yn hytrach na Chynulliad Cenedlaethol Cymru (penderfyniad y Bwrdd Taliadau ar 9 Gorffennaf 2020);

·                newid yr amserlen ar gyfer prisiadau’r Cynllun o dan Reolau 19.2, i ganiatáu ar gyfer tarfu a achosir gan COVID-19 (penderfyniad y Bwrdd Taliadau ar 9 Gorffennaf 2020); a

·                diwygiadau i adlewyrchu’r penderfyniad i newid y diffiniad o “partner” i gydymffurfio â dyfarniad Brewster (penderfyniad y Bwrdd Taliadau ar 30 Medi 2021).

2.3Cytunodd y Bwrdd, yn amodol ar wneud un cywiriad i ddileu iaith rhyw-benodol, y byddai'r rheolau diwygiedig yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd Pensiynau.  

2.4Ystyriodd y Bwrdd gymhariaeth o gynllun pensiwn staff cymorth yr Aelodau â chynlluniau pensiwn adrannau cyhoeddus a phreifat tebyg eraill, gan gynnwys cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil a’r cyfyngiadau cyfreithiol ynghylch pa weithwyr yn y sector cyhoeddus a all ymuno â’r cynllun.

2.5Cafodd y Bwrdd wybodaeth am y cyfraniadau y mae’n ofynnol i gyflogeion eu gwneud, am y cyfraniadau a wneir gan gyflogwyr, ac am y buddion a geir o dan wahanol gynlluniau.  

2.6Cytunodd y Bwrdd fod y cynllun pensiwn staff cymorth o werth tebyg i gynlluniau eraill a adolygwyd, ac nid oedd yn ystyried bod angen gwneud newidiadau ar hyn o bryd. 

Camau i’w cymryd:   Yr Ysgrifenyddiaeth i wneud y canlynol:

·  Gwneud trefniadau i’r newidiadau i Reolau Pensiynau yr Aelodau gael eu gwneud ac i'r Cadeirydd gymeradwyo’r rheolau fel y’u diwygiwyd.

·  Cyflwyno fersiwn derfynol o’r rheolau diwygiedig i’r Bwrdd Pensiynau.

</AI2>

<AI3>

3         Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad o Effeithiolrwydd Canol Tymor y Bwrdd  (9.50 - 10.20)

3.1Bu’r Bwrdd yn ystyried papur cwmpasu ar adolygiad canol tymor o’i effeithiolrwydd fel y’i cyflwynwyd gan Bennaeth Llywodraethu a Sicrwydd Comisiwn y Senedd, Gareth Watts.

3.2Cymeradwywyd cwmpas eang yr adolygiad fel y’i cynigiwyd. Cytunwyd y dylai cylch gorchwyl yr adolygiad gynnwys cyfeiriad at y pandemig a’i effaith ar waith y Bwrdd. Dylai’r adolygiad hefyd ystyried amlder ac effeithiolrwydd y cyfathrebu rhwng Cadeirydd y Bwrdd a’r ysgrifenyddiaeth.

Camau i’w cymryd:   Y Pennaeth Llywodraethu a Sicrwydd i:

·         Ddiwygio’r papur cwmpasu i gynnwys yr ychwanegiadau y cytunwyd arnynt gan y Bwrdd a datblygu’r papur yn gynllun ar gyfer yr adolygiad.

·         Cyflwyno’r cynllun adolygu i’r Bwrdd ym mis Gorffennaf i’w gymeradwyo.

</AI3>

<AI4>

4         Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad Thematig - Ffyrdd o weithio (10.30 - 12.00)

4.1Cafodd y Bwrdd gyflwyniad gan Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau Comisiwn y Senedd, ar waith y Comisiwn mewn ymateb i newidiadau yn y ffyrdd o weithio ymysg Aelodau a staff.

4.2Darparodd y Bwrdd adborth ar gwmpas adolygiad y Comisiwn o ffyrdd o weithio i’w ystyried gan y Cyfarwyddwr Adnoddau a thrafodwyd goblygiadau’r newidiadau i ffyrdd o weithio yr Aelodau a'u staff cymorth ar gyfer y Penderfyniad.

4.3Cytunwyd y dylai’r Bwrdd a Chomisiwn y Senedd gydweithio i ymgysylltu â’r Aelodau a’u staff er mwyn deall yr hyn sydd orau ganddynt o ran ffyrdd o weithio yn y dyfodol, i osgoi dyblygu, ac i wneud y defnydd gorau o adnoddau. Awgrymodd y Bwrdd y dylai ymgysylltu o’r fath gynnwys yr hyn y mae Aelodau yn ei ffafrio o ran eu defnydd o Dŷ Hywel yn ogystal â’r hyn maent yn ei ffafrio o ran gweithio yn eu hetholaethau / rhanbarthau.

4.4Awgrymodd y Bwrdd newidiadau i bapur 5 - cylch gorchwyl ei adolygiad o ffyrdd o weithio, a chytunwyd i dderbyn papur pellach ar yr adolygiad yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf.   

</AI4>

<AI5>

5         Eitem i'w thrafod: Adolygiadau Senedd yr Alban (13:00 - 14:15)

5.1Cafodd y Bwrdd gyflwyniad gan swyddogion o Gorff Corfforaethol Senedd yr Alban (SPCB) ar waith a wnaed ganddynt ar newidiadau i ffyrdd o weithio ASAau a’u staff a hefyd ar y ddarpariaeth costau staff ar gyfer ASAau.

5.2Bu’r Bwrdd yn ystyried pa agweddau ar y cymorth staffio i Aelodau o’r Senedd y gallai fod angen eu hadolygu ar gyfer gweddill y Chweched Senedd a hefyd ar gyfer y Seithfed Senedd. 

</AI5>

<AI6>

6         Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Ystyried Treuliau Eithriadol  (14.15 - 14.30)

6.1 Cytunodd y Bwrdd ar ei farn ar gais am Dreuliau Eithriadol a bydd yn ysgrifennu at yr Aelod gyda chanlyniad penderfyniad y Bwrdd.

</AI6>

<AI7>

7         Eitem i'w thrafod: Papur diweddaru  (14.30 - 15.15)

7.1 Nododd y Bwrdd ddiweddariadau ar y canlynol:

·         yr adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad;

·         blaenraglen waith y Bwrdd;

·         adnoddau'r Bwrdd;

·         rhaglen y Bwrdd ar gyfer ymgysylltu ag Aelodau;

·         diwygio’r Senedd;

·         lwfans gweithio gartref;

·         costau ynni;

·         gohebiaeth gan y Prif Weithredwr a Chlerc (trefniadau diogelwch Aelodau a darpariaeth gofal plant); a

·         chyllid y Bwrdd. 

 

7.2 Cytunodd y Bwrdd i drefnu ei gyfarfod ffurfiol nesaf ar gyfer dydd Iau 7 Gorffennaf yng Nghaerdydd.

</AI7>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.             FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.             FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1             FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2             FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>